Tystebau

”Mae ein disgyblion wedi croesawu’r myfyrdodau yn llwyr, sydd yn profi bod angen y math yma o ymarfer yn rheolaidd. Mae Cwmwl Clyd wedi galluogi inni gael amser i ysgafnhau y pwysau sy’n medru dod o fywyd pob dydd.” Ms Abigail Davies, Ysgol Y Strade

“Roedd defnyddio Cwmwl Clyd ar ddechrau gwersi yn helpu gosod awyrgylch heddychlon o fewn y wers, roedd y disgyblion yn dawelach ac yn fwy amyneddgar. Roeddwn i’n teimlo bod y myfyrdod wedi helpu’r disgyblion i ffocysu ar eu gwaith yn fwy.” Josh Williams – Defnyddiwr Cwmwl Clyd

“They engaged extremely well, quickly becoming comfortable with the process and allowing themselves to let go of self-consciousness and anxieties” Miss N. Giant – Founder Full Circle Education

“Yn Ysgol Gynradd Stubbins rydym wedi defnyddio gwefan Cwmwl Clyd ers 2 flynedd. Rydyn ni’n ei ddefnyddio trwy’r ysgol. Mae’n anhygoel gweld pob plentyn yn amrywio o’r Dderbynfa i Flwyddyn 6 yn canolbwyntio ar y sesiynau. Mae’n helpu gyda thawelu’r plant i’w paratoi ar gyfer gwers. Mae hefyd wedi helpu plant ar sail 1-1, pan fydd eu hanghenion personol yn gofyn am ychydig o sylw “ychwanegol”. Mae’r wefan yn hawdd ei defnyddio ac erbyn hyn mae’n rhan amhrisiadwy o’n cwricwlwm. Mae ein CRA/PTA wedi talu am ein tanysgrifiad ac maent yn hapus ei fod yn helpu pob plentyn yn yr ysgol.” Ms Mckennell – Stubbins Primary School

”Mae ein disgyblion wedi croesawu’r myfyrdodau yn llwyr, sydd yn profi bod angen y math yma o ymarfer yn rheolaidd. Mae Cwmwl Clyd wedi galluogi inni gael amser i ysgafnhau y pwysau sy’n medru dod o fywyd pob dydd.” Ms Abigail Davies, Ysgol Y Strade

FIDEO: Gall myfyrdod fod o fudd i staff yr ysgol yn ogystal â disgyblion. “Dwi’n poeni’n fawr ar hyn o bryd am les staff mewn ysgolion, gan gynnwys penaethiaid” Pennaeth Ysgol Y Berllan Deg, Mari Phillips a Phrif Weithredwr Cwmwl Clyd, Siwan Reynolds

“Fel rhywun sydd newydd ddarganfod meddwlgarwch a myfyrdodi mae fy mhrofiadau gyda Cwmwl Clyd wedi bod yn agoriad llygad. Mae defnyddio’r wefan yn hynod ddidrafferth sy’n sicrhau fod y profiad yn esmwyth a llyfn o’r cychwyn. Mae’r myfyrdodau cywrain yn agored i bawb, sy’n galluogi  disgyblion a staff i ymlacio ac adfywiogi, i orchfygu blinder negyddol ac i fwrw ymlaen gyda’r dydd yn bositif a gyda meddwl tawel. Roedd Cwmwl Clyd fel ffynnon ymlacio, hafan y medrwn ddefnyddio i gefnogi’r disgyblion a’r staff beth bynnag oedd eu hanghenion; i dawelu, i leddfu ac i ysbrydoli. Fe wnaeth y staff a’r disgyblion llwyr gofleidio myfyrdodau Cwmwl Clyd, ac o fy mhrofiad , gwerthfawrogi yn ddirfawr y cyfle cawsant i gael seibiant, i anadlu ac i fod yn y foment. Diolch o galon Cwmwl Clyd.” Ms Kathryn Baines – Defnyddiwr Cwmwl Clyd

Beth mae disgyblion yn meddwl am fyfyrdodau Cwmwl Clyd?