Ein Gweledigaeth

Mae symudiad gref ar led yn y DU o fyfyrdod a meddwlgarwch ac mae Cwmwl Clyd yn hynod o falch i fod ar flaen y gad.

Ein ffocws yw helpu i greu plant ac oedolion ifanc hapusach, mwy hyderus a galluog trwy ganolbwyntio ar eu hiechyd meddwl.

Trwy cynnig ein gwasanaeth rydyn ni’n gobeithio helpu cryfhau lles meddyliol, hybu hunanreolaeth positif ac yn y pen draw, helpu unigolion i gyrraedd eu potensial.

“Fy ngobaith yw y bydd pob plentyn yn cael y cyfle i ddarganfod ychydig mwy o dawelwch, hyder a chysylltiad ynddo’i hun. Os gallwn roi’r adnoddau i blant o oedran cynnar i oedi, myfyrio a deall eu hemosiynau, rydym yn rhoi rhywbeth iddynt gallant gario gweddill eu hoes. Dyna sydd wrth galon Cwmwl Clyd.”

Siwan Reynolds, Sylfaenydd Cwmwl Clyd

Cwrdd â’r Sylfaenydd…

Siwan Reynolds yw sylfaenydd Cwmwl Clyd ac athrawes myfyrdod gymwysedig (wedi’i hachredu gan Ofqual) o Gymru. Gyda gradd Baglor mewn Seicoleg (BSc) ac angerdd gydol oes dros addysg a lles emosiynol, mae wedi ymroi i helpu plant i ffynnu yn yr ysgol ac ym mhob agwedd ar fywyd.

Mae taith Siwan wedi mynd ymhell y tu hwnt i addysg draddodiadol. Cyn ei hastudiaethau prifysgol, bu’n gwirfoddoli fel athrawes mewn ysgol i blant difreintiedig yn Accra, Ghana, lle gwelodd yn uniongyrchol y gwahaniaeth y gall addysg, caredigrwydd ac anogaeth ei wneud i fywydau pobl ifanc. Yn ystod ei hastudiaethau prifysgol bu’n ymchwilio i ddulliau amgen o addysgu, gan gynnwys addysg Steiner, gan archwilio sut y gall ysgolion feithrin creadigrwydd, hyder a lles emosiynol ochr yn ochr â llwyddiant academaidd.

Ar ôl cymhwysiad pellach gyda’r British School of Meditation, dechreuodd Siwan gyflwyno rhaglenni meddwlgarwch a myfyrdod ledled De Cymru. Bu’n gweithio gyda ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, myfyrwyr prifysgol, gweithleoedd a grwpiau cymunedol, gan gyflwyno technegau ymarferol i gefnogi lles, gwytnwch ac iechyd emosiynol. Ar hyd y daith, cafodd wahoddiad i rannu ei gwaith ar BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales ac mewn digwyddiadau cyhoeddus, gan helpu i godi ymwybyddiaeth o fanteision meddwlgarwch i blant, oedolion ac addysgwyr.

Yn 2018, sefydlodd Siwan Cwmwl Clyd gyda gweledigaeth syml: darparu adnoddau meddwlgarwch, dwyieithog, o ansawdd uchel sy’n cyd-fynd â Chwricwlwm Cymru – gan eu gwneud yn hygyrch ac yn barod i’w defnyddio yn y dosbarth i athrawon ar hyd a lled y wlad. Heddiw, mae Cwmwl Clyd yn cyfuno seicoleg, addysg a blynyddoedd o brofiad ymarferol i gefnogi athrawon wrth feithrin dosbarthiadau tawelach, cryfhau gwytnwch emosiynol a rhoi sgiliau lles oes i blant.

Ochr yn ochr â’i gwaith gyda Cwmwl Clyd, mae Siwan yn parhau i weithio’n annibynnol fel athrawes myfyrdod dwyieithog, gan gynnig sesiynau myfyrdod yn Gymraeg ac yn Saesneg i oedolion, unigolion a grwpiau, wyneb yn wyneb ac ar-lein. Mae ei gwaith myfyrdod personol yn rhoi cyfle iddi barhau i rannu’r arfer y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, tra bo gwaith Cwmwl Clyd yn parhau i ganolbwyntio ar gefnogi plant, pobl ifanc, ysgolion a’r addysgwyr sy’n gweithio gyda nhw.

Hoffech chi ddysgu mwy am sesiynau myfyrdod gyda Siwan? Dilynwch Siwan Reynolds | Myfyrdod • Meditation ar Instagram i gael rhagor o wybodaeth am sesiynau unigol a sesiynau grŵp.

Bwrdd Cynghori

Sue Crabtree

Cynghorydd Addysgiadol

Fyny at 40ain mlynedd o brofiad dysgu CA1 a CA2 yng Nghymru mewn ysgolion gwladol ag annibynnol. Dirprwy Brifathro yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg am 22ain o flynyddoedd. Mae Sue hefyd wedi hyfforddi staff mewn Rheolaeth ag Ymddygiad.

Daryn Groves

Cynghorydd Meddwlgarwch

Mae Daryn yn gynghorydd meddwlgarwch gyda dealltwriaeth ddofn o seicoleg dynol ac ymwybyddiaeth emosiynol. Mae’n cefnogi unigolion i lywio heriau bywyd drwy symleiddio sut mae’r meddwl yn gweithio, gan helpu pobl i ddefnyddio eu hemosiynau fel canllaw i feithrin eglurder, gwytnwch a chydbwysedd.

Jane Davidson

Cynghorydd Addysgiadol

Roedd Dr Jane Davidson yn Ddirprwy Is-Ganghellor Emeritws ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.  Ei galwedigaeth oedd athrawes ysgol eilradd ag o 2000- 2011 roedd Jane yn Weinidog Addysg, Dysgu Drwy Gydol Oes a Sgiliau yng Nghymru.